• Résumé

  • Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.

    Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill.

    Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
    Copyright Y Pod Cyf.
    Voir plus Voir moins
Épisodes
  • Sut mae plant yn dysgu neu'n caffael iaith? A ydy trochi iaith yn effeithiol?
    Sep 22 2022
    Gwrandewch ar y drafodaeth ddifyr a chyfoes hon yng nghwmni aelodau'r panel: Owain Gethin Davies (Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy), Alaw Humphreys (Mudiad Meithrin) ac Esyllt Hywel Evans, yr Athro Enlli Thomas, a Dr Nia Young o Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor.
    Voir plus Voir moins
    46 min
  • Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
    Aug 8 2022
    Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?

    Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
    Voir plus Voir moins
    1 h et 13 min
  • Beth ydy chwarae?
    Jun 14 2022
    Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?

    Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.

    Mwynhewch y gwrando!
    Voir plus Voir moins
    51 min

Ce que les auditeurs disent de Am Blant

Moyenne des évaluations de clients

Évaluations – Cliquez sur les onglets pour changer la source des évaluations.