Beth yw perthynas cerdd a llun? Pam fod rhai beirdd prin yn cyhoeddi eu cerddi? Pa erthyglau diddorol sydd yn rhifyn y Gaeaf 2022 o gylchgrawn Barddas?
Anni Llŷn, Alaw Mai Edwards, a’r Prifeirdd Twm Morys, Idris Reynolds ac Alan Llwyd sy’n trafod, yng nghwmni Alaw Griffiths, Cydlynydd Barddas.