Episodes

  • Un peth sy'n gallu GBYH heddiw! | 14
    Feb 12 2025
    Cyfle i ddysgu am rywbeth ymarferol heddiw sy'n gallu GBYH. Triwch hwn os ydych chi'n teimlo ychydig bach ar goll yn eich meddyliau er mwyn ail-gysylltu a gwrando ar y doethineb sydd y tu mewn.
    HEFYD - blas bach ar newyddion gen i fydd i'w rannu'n llawn yn y bennod nesaf!
    Show more Show less
    20 mins
  • Bod yn agored i dderbyn | 13
    Jan 29 2025
    Beth mae'n ei olygu i fod yn agored i dderbyn rhywbeth? Yn y bennod hon, cawn gynghorion ar sut mae'r weithred honno yn gallu ein helpu. Trafodir hefyd beth yw ystyr 'glimmers' a sut maen nhw'n mynd law yn llaw â'r syniad o 'dderbyn'. Ydy'r ddau beth hyn yn gallu Gwneud Bywyd yn Haws? Gwrandewch i ddysgu mwy!
    Show more Show less
    17 mins
  • Byw Bywyd Bwriadol | 12
    Jan 15 2025
    Beth mae 'byw bywyd bwriadol' yn ei olygu? A sut y gallwn ddechrau gwneud hynny?
    Show more Show less
    16 mins
  • Cynllunio ein un bywyd gwyllt a gwerthfawr... | 11
    Jan 1 2025
    Ym mhennod gyntaf 2025, cyfle i ystyried beth sy'n gallu ein helpu ar ddechrau cyfnod newydd? Beth yw rhai o'r pethau y gallwn eu hystyried? Sut gallwn sicrhau ein bod ni'n cymryd camau tuag at ein gobeithion mewn modd cynaladwy? Yn ystod y bennod hon, mae Hanna hefyd yn trafod y dyfyniad enwog o gerdd Mary Oliver sy'n aml yn cael ei gam-ddehongli: 'Tell me, what is it you plan to do with your one wild and precious life?'. Sut gall ystyried ystyr wreiddiol y dyfyniad ein helpu yn ystod y tymor hwn? Gwrandewch i ddarganfod mwy!
    Show more Show less
    22 mins
  • Teimladau’r Tymor: Crynhoi Cyfres Un | 10
    Dec 18 2024
    Cyfle i grisialu rhai o’r teimladau sy’n gallu codi ar ddiwedd blwyddyn, yng nghanol tymor hynod o lawn. Ond - os ydych chi’n gwrando ar y bennod ar adeg wahanol o’r flwyddyn - na phoener! Mae digon o bethau yma i fyfyrio drostynt wrth i Hanna ein tywys drwy rai o brif bwyntiau cyfres gyntaf podlediad GBYH. Mwynhewch!
    Show more Show less
    38 mins
  • Gwneud lle am emosiynau | 9
    Dec 4 2024
    Mewn cyfnod sy'n gallu teimlo'n orlawn a ble mae amryw o emosiynau yn dod i'r wyneb, dyma gyfle i ddechrau dysgu sut y gallwn greu lle ar eu cyfer nhw a beth yw'r buddion o wneud hynny. Cawn gyfle hefyd i ddysgu ychydig bach mwy am y critic mewnol. Croeso i GBYH!
    Show more Show less
    17 mins
  • 'Gad iddo fynd' versus 'Gad iddo fod' | 8
    Nov 20 2024
    Yn y bennod hon, mae Hanna'n trafod y gwahaniaeth rhwng 'Gad iddo fynd' a 'Gad iddo fod' yng ngoleuni cân enwog y Beatles 'Let it be'. Sut mae ail-fframio dywediad rydym yn ei glywed yn gyson er mwyn Gwneud Bywyd Yn Haws?
    Show more Show less
    14 mins
  • Beth yw Cwrs GBYH? | 7
    Nov 6 2024
    Cwrs GBYH - Cwrs Gwneud Bywyd yn Haws. 12 modiwl sydd â'r bwriad o wneud yr union beth hynny. Yn y bennod hon, ceir cyfle i gael blas ar gynnwys y cwrs - mae cofrestru'n cau 10/11/24! Gwrandewch tan y diwedd am wahoddiad i ddysgu mwy cyn ymrwymo.
    Show more Show less
    27 mins